"GWYLNOS.

Previous

Fe fu farw Shann, Ty Clai yn ddiweddar, yn 90 oed. Nid oedd ganddi yr un plentyn yn y byd i alaru ar ei hol, ond yr oedd Abel ei hwyr, bachgen 18 oed, yn llefain yn dost ar ol yr unig ffrynd oedd ganddo yn y byd. Fe fu yno ryw wylnos ryfedd ar ei hol. Cafwyd cwrw yno o dafarn Nani Dan-yr-Allt, a buwyd yn adrodd hanes Twm Shon Cati, ac yn yfed hyd haner nos. Yna gollyngodd rhyw rai raff yn ddistaw i lawr trwy y simnau, tra yr oedd eu cyfeillion tu mewn yn canu can Ysgyfarnog pen Crug y Balog. Yr oedd Abel druan, yn eistedd yn bendrwm yng nghornel yr aelwyd, a’i law dan ei ben, ac yn llefain wrtho ei hunan, ac Evan Blaen Cwm ar ei bwys, ac yn ei gysuro, a’i law dros ei gefn, gan dd’weyd, Paid llefan Abel bach; yf lymaid eto; rhaid i ti ymroi i fod yn dawel, a ni a wnawn ninau ein goreu drosof ti. Gwnawn nas cyffrwy i, Abel! Ar yr un pryd yr oedd yr hen andras yn cylymu y rhaff am ganol yr hogyn tlawd. Yn y man dyna y cymdeithion o’r tu maes yn gwaeddi, Hirwen gwd, ac Evan o’r tu mewn yn gwaeddi, ‘chwareu yn barod.

Gyda hyny, dyna Abel yn araf esgyn i fyny i’r simnai, ac Evan yn gofyn, Pa le yr wyt ti yn myned, Abel bach? ac yntau yn ateb, Wn i ddim b’le mae’r d——l yn myned a fi. Tyn-wyd ef i maes trwy y simnai. Hen lwfer gul ydoedd, yn llawn o huddugl, ac yr oedd golwg ofnadwy arno wedyn....

Mae nhad a’r dynion goreu yn teimlo i’r byw fod y fath beth wedi cymeryd lle yn yr ardal, ac na fu y fath beth o’r blaen er ys pymtheg mlynedd.”

Translated into English the above reads as follows:—

                                                                                                                                                                                                                                                                                                           

Clyx.com


Top of Page
Top of Page